"Real talent" Huw Stephens, BBC Radio 1
"Wonderful" Richard Coles, BBC Radio 4
"A star in the making." Stereoboard
"She's overflowing with a comfortable self-confidence and has every right to be" Big Issue
Dechreuodd gyrfa unigol Kizzy Crawford yn 2012 yn 15 oed. Mae'n perfformio cyfuniad gwirioneddol unigryw o jazz, gwerin, soul a ffync ac mae'n gyfansoddwraig, yn aml-offerynnwr a chynhyrchydd. Rhyddhaodd y gantores-gyfansoddwraig, nawr 27 oed o Dde Cymru, ei halbwm cyntaf drwy Freestyle Records yn 2019 a derbyniodd gyllid o gronfa PRS Women in Music i hyrwyddo a theithio’r albwm. Yn 2021, rhyddhaodd Kizzy ei halbwm Cymraeg cyntaf ‘Rhydd’ trwy recordiau Sain.
Mae cerddoriaeth Kizzy wedi derbyn cefnogaeth gan BBC Radio 1, BBC 2, 6Music, Jazz FM, BBC Radio 4, BBC 3 a BBC Radio Wales & Radio Cymru ac ychwanegwyd ei sengl Dilyniant at restr chwarae sioe ‘drivetime’ Jo Whiley & Simon Mayo ar BBC Radio 2 ac roedd hefyd yn ymddangos ar albwm Craig Charles 'Funk & Soul Club Volume 6'. Mae Kizzy wedi perfformio’n fyw ar BBC Radio 4 sawl gwaith gan gynnwys ar gyfer Woman’s Hour, yn BBC Maida Vale ac ar gyfer BBC Radio 3 lle bu’n perfformio ar raglen talent ifanc ‘The Verbs’.
Mae Kizzy wedi perfformio mewn nifer o wyliau yn y DU ac Ewrop gan gynnwys Glastonbury, Festival No 6, L’Orient, How The Lights Get In, Celtic Connections, Womex, Gŵyl Jazz Llundain, Gŵyl y Gelli, Cambridge Folk, Cheltenham Jazz, Blissfields, Greenman & Cornbury Festival ac mae hi wedi perfformio yng Nghanada yn Prince Edward Island ac yn fwy diweddar, yn M for Montreal diolch i gefnogaeth gan PRS Foundation.
Mae Kizzy wedi perfformio mewn nifer o leoliadau a digwyddiadau proffil uchel gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yng Nghynhadledd Plaid Cymru, Gŵyl Fwyd y Fenni (lle perfformiodd ei sengl Golden Brown yn fyw ar BBC Radio 4). Mae hi hefyd wedi perfformio fel artist cefnogol i Omar Lye-Fook, Gruff Rhys, Newton Faulkner, Benjamin Francis Leftwich ac wedi perfformio ochr yn ochr â Joss Stone, Bryn Terfel gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, a Cerys Matthews yn Nhŷ’r Cyffredin, San Steffan. Mae Kizzy hefyd wedi chwarae rhannau bach ym myd teledu gan gynnwys Gwaith Cartref S4C, Keeping Faith BBC 1 (ochr yn ochr ag Eve Myles) a’r prif gymeriad yn Tipini i Cyw ar S4C.
Ymunodd Kizzy â theulu cyhoeddi BDi Music yn 2014 ac ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, dewiswyd pump o’i chaneuon fel gweithiau gosod fel rhan o faes llafur Cerddoriaeth Lefel A CBAC, mae’n eistedd yn yr adran cerddoriaeth gyfoes wrth ymyl yr artistiaid/bandiau enwog Gruff Rhys, Y Manics a'r Super Furry Animals.
Yn 2017, cyd-ysgrifennodd Kizzy gerddoriaeth newydd gyda’r pianydd a chyfansoddwr jazz Gwilym Simcock ar gyfer y prosiect cydweithredol ‘Birdsong-Can Yr Adar’ ac aeth ar daith ledled Cymru ac yng Ngŵyl Jazz Llundain. Rhyddhawyd y recordiad yn ddiweddarach gan Basho Records yn 2018. Roedd ‘Birdsong-Can Yr Adar’ yn seiliedig ar Goedwig Law Geltaidd Carngafallt ac roedd y prosiect mewn partneriaeth â Sinfonia Cymru, RSPB Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae perfformiadau theatr diweddar yn cynnwys y brif ran yn ‘Petula’ gyda National Theatre Wales a Whimsy gyda Theatr Genedlaethol. Mae Kizzy yn gweithio ar gerddoriaeth newydd ar hyn o bryd ac yn gobeithio rhyddhau ei thrydydd albwm yn fuan. Mae Kizzy hefyd yn mwynhau cyfansoddi cerddoriaeth bwrpasol ar gyfer teledu, ffilm, hysbysebion a rhaglenni dogfen, mae ei gwaith diweddar yn cynnwys cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer rhaglen ar BBC Sounds ‘June: Voice of a Silent Twin’ a ‘Complexity of Skin’, ffilm fer i’r BBC. Mae gwaith cyfansoddi arall yn cynnwys 2 dymor o gerddoriaeth ar gyfer TIPINI, sioe Gymraeg i blant ar gyfer S4C, ‘Simple Acts’ i National Theatre Wales a ‘Death of a Fool’ i Opera Cenedlaethol Cymru.
Allan Nawr! Cliciwch yma i brynu
Allan Nawr! Cliciwch yma i brynu
Allan Nawr! Cliciwch yma i brynu
Allan Nawr! Cliciwch yma i brynu
Allan Nawr! Cliciwch yma i brynu